Lois Angharad Williams

Lois Williams
Ffotograffydd

Rwyf wedi bod yn ffodus i gael fy ngeni a magu yn Llanberis (Ardal Chwarel Dinorwig) wrth droed yr
Wyddfa. Atgof melys o fy mhlentyndod yw ymweld â'r Amgueddfa Lechi a chael hanes fy nhad yn
helpu adeiladu Tai’r Chwarelwyr – ‘Fron Haul’ yn y flwyddyn 1999.


Teimlaf fod byw yn Llanberis ac o amgylch y Chwarel a’r tirwedd Llechi wedi hybu fy niddordeb o
dynnu lluniau ac rwy'n mwynhau dangos prydferthwch ardal Llanberis a’r chwarel drwy Gamera.


Tynnwyd y llun uchod o'r hwyaid ger Llyn Padarn yn ystod y cyfnod clo ac rwyf yn falch fy mod yn
cael y cyfle i hyrwyddo’r ardal drwy wefannau a chyfrifau cymdeithasol gwahanol ynglŷn â Gogledd
Cymru, y tirwedd a’u hardaloedd Llechi.