Pant Du

Pant Du
Gwinllan | Perllan

Gwinllan a Pherllan deuluol yw Pant Du, a sefydlwyd yn 2007 gan Richard a Iola Huws. Mae 9 acer o winwydd a 18 acer o goed afalau wedi eu plannu ar dir y fferm, gan drawsnewid llethrau Dyffryn Nantlle. Mae cynnyrch Pant Du yn cynnwys Gwin, Seidr, Sudd Afal, Dŵr Ffynnon, a Mêl. Dros y blynyddoedd rydym wedi ennill nifer o wobrau am ein cynnyrch.

Nod Pant Du yw bod yn gwbl hunan cynaliadwy. Rydym yn falch o fod y winllan a’r berllan gyntaf yng Nghymru i redeg oddi ar egni solar. Mae 44 o baneli solar wedi eu gosod ar do’r adeilad prosesu, yn cynhyrchu’r holl drydan sydd ei angen i redeg yr adeiladau, a’r offer tu mewn.

Mae Pant Du yn falch o gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod leol. Yn ychwanegol at win, seidr, a sudd afal Pant Du mae dewis eang o ddiodydd meddal, neu lager drafft oer, dewis o gwrw lleol Cymreig, a gwinoedd safonol o bob cwr o’r byd. Mae digon o fyrddau i eistedd tu mewn neu du allan ar y patio ac yn yr ardd. Cewch ddewis gwych o brydau cartref poeth ac oer ar y fwydlen, yn ogystal â detholiad o brydau plant, a chacennau cartref blasus.

Rydym hefyd yn cynnig teithiau tywys o amgylch y winllan, perllan a ffynnon ddŵr, yma cewch gyfle i ddysgu am hanes ac amrywiaeth y coed afalau a'r grawnwin sydd wedi eu plannu ar lethrau Pant Du

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â - 01286 881819 / post@pantdu.co.uk