Rhodri Ap Gwyn

Rhodri Ap Gwyn
Cig Oen Glastraeth

Mae Rhodri yn bedwerydd Cenhedlaeth i ffermio fferm deuluol Hafod-y-wern, Penrhyndeudraeth sy'n cynnwys 100 acer o borfa glastraeth y Ddwyryd a'r cei llechi.  Roedd y Ddwyryd yn afon allweddol i allforio llechi o Flaenau Ffestiniog i borthladd Porthmadog.

Mae Rhodri yn cynhyrchu cig oen glastraeth (Salt Marsh Lamb) sy'n gig oen unigryw gyda blas arbennig o anghygoel, ysgafn a brau sy'n toddi yn eich ceg.  Mae'n gig iachus sy'n llawn omega 3 ac yn faethlon iawn gyda'r wyn yn pori'n fodlon ar gyfuniad o blanhigion llawn o faetholion a mwynau sydd ar gael ar y glastraeth.  Cewch olrheinadwyedd llawn ei fod yn gig lleol.

Dyma dir sydd wir yn lastraeth h.y. rhaid i’r tir gael ei orchuddio’n gyfan gwbl gan y môr yn ddyddiol am gyfnod o leiaf wythnos o bob mis o ganlyniad i lanw a thrai naturiol.  Felly mae Rhodri i'w weld yn aml yn casglu'r defaid a wyn cyn y llanw, gan gadw llygad ar y tywydd bob amser gan y gall gwynt cryf tu ôl i'r llanw fod yn beryglus iawn i'r ddiadell.

Gwerthir yr wyn yn uniongyrchol i Siop Cigydd D G Davies, Penrhyndeudraeth a Chanolfan Bwyd Bodnant.  Hefyd mae Lladd-dy (Conwy Valley Meat) Llanrwst yn cyflenwi'r cynnyrch arbennig yma i Gigyddion eraill drwy Gymru, yn ystod y tymor Mehefin i Rhagfyr.

Cig Oen Glastraeth