Jessica Eade

Jessica Eade
Distyllwyr

Mae fy ngŵr a minnau wedi byw yng Ngogledd Cymru am y rhan fwyaf o’n bywydau, ac ni allwn ddychmygu byw yn unrhyw le arall. Rydym yn berchen ar fwthyn a oedd yn arfer a bod yn gartref i chwarelwr, wedi ei leoli o dan chwarel Dinorwig ac yn edrych dros Llyn Padarn. Dros y blynyddoedd rydym wedi gwario llawer o amser yn dod i adnabod y chwareli lleol gan ddisgyn yn wirioneddol mewn cariad gyda prydferthwch naturiol y lle.

Yn 2016 fe wnaethom sefydlu distyllfa fychan o gartref. Ein bwriad oedd creu rhywbeth greiddiol i’r ddaear a fyddai’n cynnwys ei dreftadaeth ddiwydiannol. Fe wnaethom hyn trwy’r brand, gan ddewis cynhwysion lleol, a chreu gwirod cryf ac amlwg. Mae nifer o’r cynhwysion botaneg rydym yn eu defnyddio yn ffynnu yn ei gardd ar ochr y mynydd a mae’r dŵr rydym yn ei ddefnyddio yn dod o’n ffynnon ni, wedi ei hidlo drwy haenau o lechi.

Comisiynwyd yr arlunydd lleol Glyn Price i greu label i’r botel sy’n cynrychioli chwarel Dinorwig, y mynyddoedd, y coedwig a’r llyn. Mae’r label terfynol yn cyferbynnu nodweddion y tirlun gyda acenion diwydiannol y dreftadaeth pensaernïol.