Moelwen Gwyndaf

Cadair Eisteddfod
Hanes Teulu

Gan i fy nhad symud i Sir Gaerfyrddin i weithio, fy mhrofiad i o ardal y chwareli yw ymweliadau i weld Nain a’r teulu ar waelod Moel Tryfan ger Rhosgadfan. Ganwyd fy nhad yn 1917 yn un o 12 o blant ac roedd ei fywyd yn blentyn yn troi o gwmpas y pentref, yr Hen Gapel, straeon y chwarel a’r capel.  

Pan oedd Chwarel Gors y Bryniau yn ei bri ar ddechrau’r ganrif fy hen daid oedd biau’r holl geffylau a weithiai yn y chwarel ac ef oedd y cyntaf i redeg brêc o Rosgadfan i Gaernarfon ond ar ôl colli ei wraig yn ifanc, torodd ei galon, dechreuodd fyw yn afradlon ac aeth ei fusnes i’r wal.  

Gweithiai fy nhaid a dau o’i feibion yn Chwarel Gors y Bryniau.  Yr oedd cannoedd yn gweithio yn Chwarel y Foel hefyd.  Deuai’r plant adref o’r ysgol gan ddisgwyl yn eiddgar am glywed corn y chwarel yn canu am bump o’r gloch.  Yna, gwelsant dyrfa yn dod dros ochr y Foel a chlywir sŵn esgidiau hoelion mawr fel byddin yn agosau.  Gyda taid a’r hogiau adref, byddai pawb wedyn yn mwynhau swper chwarel, lobscows gan amlaf.

Weithiau byddai gorymdaith y chwarelwyr yn arafach nag arfer a gwelir elor fawr a chorff dyn yn gorwedd arni wedi ei orchuddio â sachau.  Roedd golygfeydd cyffelyb yn rhan o brofiad pob plentyn a fagwyd yng nghanol bywyd caled y chwareli.

Yr oedd tywydd oer a rhewllyd y gaeaf yn lladdfa i blant y mynyddoedd ac yn ystod stormydd gaeafol ardal Moeltryfan gorchuddid y tyddynod gan y lluwchfeydd.  

Cynhelid Eisteddfodau llewyrchus yng Ngorffwysfa a Hermon. Yn cloi yr Eisteddfod yr oedd y corau mawr. Enillodd Côr Rhosgadfan gyda y nhaid yn arwain yn Eisteddfod Hermon yn 1925 – gweler y llun uchod. 

Nid oedd na thafarn na heddgeidwad yn agos i Rosgadfan yn nyddiau ieuenctid fy nhad ac nid oedd angen plismon yno byth.  ‘Roedd gan y plant a’r bobl ifanc ormod o barch i’r gweindiogion a’r blaenoriaid i dramgwyddo neb na dim.  Gresyn yw meddwl fod capel hardd fel Hermon, cyrchfan tyrfaoedd lawer, a Gorffwysfa wedi eu dymchwel erbyn hyn.

Roedd yr hafau yn hir a heulog a braf oedd eu byd fel plant yr Hen Gapel.  Roeddent yn dringo yn fynych i ben Mynydd y Foel gan chaware’n hapus ar y creigiau.  ‘Nhw oedd piau’r creigiau.  Ar ddiwrnod braf aent â brechdanau a llaeth gyda nhw i gasglu llysiau duon bach ar y Mynydd Grug neu’r Mynydd Mawr.  Wedi dod yn hŷn, byddent yn dringo i ben Moel Eilian.  Wedi dychwelyd adref gyda’r llysiau duon bach coginiai Nain deisen yn y ffwrn a dyna wledd iddynt fel teulu.

Yng ngaeaf 1926  yr oedd y glowyr ar streic ac nid oedd glo i’w gael yn unman.  Roedd yn oer a gorfu i nhad a’i frawd golli llawer o’r ysgol er mwyn mynd i’r Wern ar lethrau Betws Garmon i dorri coed a chario beichiadau ohonynt ar eu hysgwyddau yr holl ffordd yn ôl.  

Yn ogystal â chymylai duon y streic lo yr oedd gwmwl gwaeth ar y gorwel, gan fod y fasnach lechi yn edwino.  Ar ben y cyfan, aeth sied fawr Gors y Bryniau ar dân ac ar waethaf ymdrechu dewr y chwarelwyr i geisio ei diffodd llosgodd y lle yn llwyr i’r llawr a dyna ddiwedd ar chwarel Gors y Bryniau.  Taflwyd cannoedd o grefftwyr profiadol ar y dôl a dyna ddechrau cyfnod o dlodi a chynni yn yr ardaleodd.  Llusgai Chwarel Moeltryfan ymlaen i weithio ond cau fu ei hanes hithau ymhen ychydig.