Pam Smith

wagen a trac
Camu i mewn i Hanes

Does ond rhaid cymryd ychydig o gamau byr o fy nrws ffrynt yn Y Fron i fod yng nghanol y diwydiant llechi. Mae hanes diwydiant llechi Cymru i’w weld o’r tomennydd llechi gwasgarog i’r cipolwg o drac trên a ddefnyddir bellach fel pyst i ffensys yn llawer o waliau’r caeau cyfagos.

Mae’r chwareli bellach yn dawel ar y cyfan heblaw am ambell dractor a threlar yn cario gwastraff llechi o’r tomennydd a ddefnyddir yng ngerddi pobl i greu nodweddion dŵr a cherfluniau gwledig. Mae’n galluogi rhan fechan o’r diwydiant hwn a fu unwaith mor llewyrchus i gael ei ailbwrpasu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain i bobl ei fwynhau.

Mae’n fraint cael byw yn y dirwedd syfrdanol hon gydag atgofion o’r diwydiant llechi ym mhobman. Mae archwilio’r chwareli sydd bellach yn dawel yn rhoi cipolwg unigryw ar fywyd y chwarelwyr. Mae’r dirwedd yn newid ac yn esblygu wrth i natur adennill yn raddol y tomenni llechi a’r chwareli dwfn a orchuddiwyd o’r mynyddoedd gan chwarelwyr y gorffennol. Maent bellach yn hafanau i fywyd gwyllt, rhai wedi'u llenwi â dŵr ac eraill â llystyfiant yn darparu cynefin i anifeiliaid bach.

Wrth gerdded o fy nghartref mae'n bosibl dringo'r grisiau a ddefnyddiwyd gan y chwarelwyr wrth iddynt gerdded o'r pentref i chwarel Cilgwyn. Ar hyd yr un llwybr gallwch weld enghreifftiau o drac trên segur a rhannau o wagenni llechi yn rhydu a ddefnyddiwyd i dynnu’r llechi allan o’r chwarel. Defnyddiwyd llawer o'r darnau o beiriannau a thrac trên a esgeuluswyd i lenwi bylchau yn y caeau gan helpu mewn ffordd wahanol i warchod treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal.

Nawr bod yr ardal yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd sydd newydd ei ddynodi ar gyfer Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, y gobaith yw y bydd mwy o bobl yn dod i ddeall ôl traed y chwarelwyr anghofiedig hyn a greodd y dirwedd unigryw hon sydd wedi dod yn rhan o wead y chwarel, ac y pentref a’r lle rwy’n falch iawn o fyw ynddi.

Hawlfraint Llun: Pam Smith