James 'John-Jo' Jones

James 'John-Jo' Jones
Crefftwr Arddangos

Dwi di bod yn gweithio yn y diwydiant llechi ers 32 o flynyddoedd. Ma’ chwe chenhedlaeth o’m teulu i wedi gweithio fel chwarelwyr, a Taid wedi sgwennu llyfrau am ei hanesion yn y chwarel. Ar hyn o bryd dwi’n gweithio yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis ar ôl symud o Chwarel Penrhyn.

Dwi di cael y cyfle i greu petha' reit ddiddorol allan o lechi fel rhan o’r swydd bresennol, a hyd yn oed wedi gwneud ychydig o betha’ ar gyfer Palas Buckingham. Dwi wrth fy modd yn rhannu straeon efo’r cyhoedd am y llechi a fy nghysylltiad efo’r ardal.