Lauren Hill

Lauren Hill
Hyfforddwr Pilates

Cefais i fy magu ym Mhorthmadog ac ym Mhenrhyndeudraeth, ond cafodd fy nain ei geni a'i magu ym Mlaenau Ffestiniog, ac arferai ddweud straeon wrthyf am ei theulu yn gweithio yn y chwarel.


Ar ôl treulio amser yn byw ac yn gweithio i ffwrdd, penderfynais fy mod eisiau dod yn hyfforddwr Pilates. Penderfynodd fy ngŵr a minnau symud yn ôl i'r ardal oherwydd y cyfleoedd sydd ar gael yma. Roeddem yn gwybod mai hwn fyddai'r lle gorau i gychwyn busnes newydd, a rwyf bellach wedi dechrau dosbarthiadau Pilates i ddechreuwyr ym Mhenrhyndeudraeth, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog.


Eryri ei hun yw'r hyn sy'n fy ysbrydoli. Yn ogystal â bod ag angerdd cryf dros PiIates mae gen i angerdd cryf dros heicio neu redeg yn y mynyddoedd, dwi ddim yn byw ymhell o ddyffryn Croesor lle mae yna ddigon o hanes y chwareli, ac rydw i'n mwynhau ymgolli yn elfennau hanesyddol y dirwedd.