Stuart Williams

Stuart Williams
Rheilffordd Talyllyn

Mae cysylltiad Rheilffordd Talyllyn â llechi yn dyddio yn ôl i 1864 pan fu i griw o ddynion busnes o Fanceinion o dan arweiniad Thomas McConnel gymryd drosodd chwarel lechi fychan Bryn Eglwys sydd wedi ei leoli yn y mynyddoedd uwchben Abergynolwyn. Roedd cynlluniau mawr ganddynt i ehangu’r chwarel, gan gynnwys darparu cartrefi i’r gweithlu oedd yn ehangu ym mhentref Abergynolwyn.

Rhan arall o’r cynlluniau oedd adeiladu rheilffordd cledrau cul 2droedfedd 3modfedd i gario llechi o’r chwarel i Tywyn lle gellid wedi ei drosglwyddo i’r prif lein ac ymlaen i borthladd Aberdyfi i’w gludo ar draws y byd. Agorwyd y rheilffordd yn 1865. Roedd y trenau llechi yn cael eu tynnu gan unig loco’r rheilffordd, sef ‘Talyllyn’ – sydd dal yn rhedeg heddiw. Cychwynnwyd gludo teithwyr yn fuan wedi hyn.

Yn anffodus ni lwyddwyd i sicrhau elw ar y raddfa y disgwyliwyd, a bu’r rheilffordd yn ymdrechu ymlaen dan wahanol berchnogion nes iddo wynebu cau yn yr 1950au. Fodd bynnag, daeth criw brwdfrydig ynghyd i greu Cymdeithas Gadwraeth Rheilffordd Talyllyn gan gymryd drosodd y llinell ym mis Mai, 1951. Gan hynny daeth y rheilffordd cyntaf yn y byd i gael ei warchod gan Ymddiriedolaeth Gadwraeth.

Erbyn heddiw, y fi yw’r Rheolwr Cyffredinol balch o’r Rheilffordd, a mi rydym yn cario 50,000 o deithwyr sy’n cael profi yr un llwybr a’r teithwyr Oes Fictoria, gan eistedd yn yr un cerbyd – a tu ôl i’r yr un loco! Mae tystiolaeth o’n treftadaeth gyda’r lechen i’w gweld ar hyd y daith, ac mi rydym yn ceisio diogelu a gwella ein dehongli.

Mae ein amgueddfa Rheilffordd gul yma yn Tywyn yn dogfennu treftadaeth cyfoethog ein rheilffordd, ond hefyd rheilffyrdd bychain eraill ar draws Cymru. Os nad ydych wedi profi taith yma eto – dewch draw!!

www.talyllyn.co.uk