Richard Davis

Richard Davis
Inigo Jones

Dwi’n gweithio yng Ngwaith Llechi Inigo Jones yn crefftio cynnyrch i’r cartref o Lechen leol.  Oni’n arfer dod yma i weithio i’r Gwaith Llechi ar wyliau Ysgol, ac wedi dilyn cymwystrau mewn twristiaeth, roedd symud ymlaen o’r ysgol i weithio yn Inigo Jones yn teimlo fel ail natur. Oni’n gyfarwydd hefo’r gwaith, ac oni’n medru defnyddio’n nghymwysterau mewn twristiaeth; gan fod Inigo Jones hefyd ar agor i’r cyhoedd ymweld â’r safle a chael cyfla i ddysgu am hanes yr ardal.  Mae o’n deimlad da i weld y gwaith da ni’n cynhyrchu o lechen crai, wedi ei orffen ac ar werth yn y siop. Dwi’n teimlo ein bod ni’n gneud trysor o’r llechen leol ac mae o’n wbath i gadw am byth.